|
QWFC
Cynllun Organig CymreigRhif y DU 13
Mae’n cael ei gydnabod gan yr United Kingdom Accreditation Service (UKAS) ar gyfer y Cynllun Gwarant Da byw o Gymru, FAWL (Rhif Cofrestredig 146) a gan DEFRA fel corff ardystio organig (Rhif Cofrestredig y DU 13).
Cyflwynir gwasanaeth yn arbennig i ffermydd ac amaethwyr Cymru gan ganolbwyntio ar eu anghenion arbennig nhw.
ARDYSTIO ORGANIG I ddod yn ffermwr organig, mae angen cynllunio gofalus. Nid oes yn rhaid i’r broses fod yn un anodd a dyrus ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu i gyflawni’r gwaith yn hwylus ac yn ddiffwdan. Fodd bynnag, fe fydd yn rhaid i ambell un newid yn fwy nag eraill ac ail ystyried y ffordd o ffermio yn ofalus.
Cyn cychwyn i newid o’r drefn gonfensiynol i’r un organig, fe fyddwch angen cyngor gan rai o’r amryw gyrff sydd ar gael i’ch helpu. Y man cyntaf all fod y Ganolfan Organig Gymreig sy’n gweithio â Chyswllt Ffermio. Mae’r ganolfan yn rhoi ei gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac fe ellwch gysylltu â hi ar (01970) 622100. Fe dderbyniwch becyn gwybodaeth ac fe gewch ymweliad gan ymgynghorydd cydnabyddedig a all roi cyngor i chi ar drosi at amaethu organig. Gall Cyswllt Ffermio roi cyngor pellach hefyd ac mae eu cymorth yn cynnwys cyngor technegol a busnes am ddim, hyfforddiant a’r cyfle i ymuno â grwp trafod. Mae ganddynt gadwyn o ffermydd i chi gael ymweld a nhw. Mewn gwirionedd, gall ymweld â fferm organig fod yn brofiad gwerthfawr iawn.
Yn olaf, i gael eich cydnabod fel ffermwr organig a chael marchnata eich cynnyrch yn organig, rhaid cofrestru â chorff ardystio organig fel QWFC Ltd. Mae unrhyw un sydd yn gwerthu cynnyrch fel cynnyrch organig, ond sydd heb gofrestru â QWFC neu gorff cyffelyb, yn torri’r gyfraith. |