Cymdeithas gydweithredol amaethyddol a reolir gan ffermwyr yw Cwmni Cig Oen ac Eidion Cyf (WLBP), a chanddi dros 7,000 o aelodau. 

Mae WLBP yn berchen ar gynllun Gwarant Fferm Da Byw Cymru sy’n cael ei fonitro gan gorff ardystio o’r enw Quality Welsh Food Certification Ltd (QWFC), corff a gymeradwyir gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig i weithredu o dan Safon EN45011 yr UE. Hefyd, mae WLBP yn annog ei aelodau i ofalu am yr amgylchedd ac i gymryd rhan mewn cynlluniau cynllunio iechyd a lles anifeiliaid. Datblygwyd gwefan bwrpasol sef Cynllun Cofnodion Fferm ac Iechyd Anifeiliaid i alluogi’r aelodau i gadw a diweddaru cofnodion cywir am reoli anifeiliaid. Caiff cynllun FAWL hefyd ei gydnabod gan Safonau Sicrwydd Bwyd a gall ffermydd ei aelodau farchnata eu cynnyrch o dan faner Cynllun y Tractor Coch.

Mae WLBP:

  • Yn monitro’n barhaus y materion sydd o bwys i ddefnyddwyr, y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill.
  • Yn ymateb yn rhagweithiol i sicrhau y gellir cynnal ffydd yng nghig oen a chig eidion Cymru.
  • Yn mynd i’r afael â materion fel iechyd a lles anifeiliaid fferm.

Mae Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cyf yn enghraifft o gymdeithas gydweithredol amaethyddol sydd ar waith i sicrhau buddion i aelodau a defnyddwyr fel ei gilydd. Gyda’r diwydiant yn newid yn gyflym a chyson, rhaid i fentrau cydweithredol fel WLBP esblygu er mwyn addasu i’r newidiadau hynny a chwarae rhan gadarnhaol er budd eu haelodau.

lilly